Oes gynnoch chi hoff anrheg Nadolig? Dach chi’n cofio’r cyffro o agor yr anrheg ar fore Dydd Nadolig a chael sypreis hyfryd?
Yn y rhifyn yma, mae colofnwyr Lingo Newydd yn dweud beth yw eu hoff anrhegion Nadolig erioed – ac mae ’na ambell un annisgwyl!
Yn y rhifyn yma hefyd, dan ni’n croesawu colofnydd newydd. Mae Aneirin Karadog yn fardd, darlledwr ac ieithydd sy’n byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth. Mae hefyd yn ffan mawr o Doctor Who! Mae Aneirin yn mynd i ysgrifennu colofn am bob math o farddoniaeth. Yn ei golofn gyntaf, mae’n edrych ar sut mae beirdd wedi dathlu’r Nadolig dros y canrifoedd. Os dach chi’n mwynhau darllen neu ysgrifennu barddoniaeth mi fyddwch chi’n siŵr o fwynhau colofn Aneirin.
’Dyn ni hefyd yn croesawu Georgina Rannard sydd yn mynd i ysgifennu blog i Lingo+. Mae Georgina a’i phartner Gwyndaf Hughes wedi mynd i fyw ar Ynys Enlli i ofalu am y defaid a’r gwartheg. O Lerpwl mae Georgina yn dod yn wreiddiol ac mae hi’n dysgu Cymraeg. Yn ei blog y tro yma mae hi’n disgrifio sut mae hi a Gwyndaf yn paratoi at eu Nadolig cyntaf ar yr ynys. Mi fydd yn wahanol iawn!
Oes hoff garol Nadolig gyda chi? Mae John Rees wedi bod yn edrych ar hanes carolau. Oeddech chi’n gwybod bod hanes y garol Nadolig yn dyddio’n ôl i’r ail ganrif? Mae llawer o ffeithiau diddorol yng ngholofn John.
Hefyd yn y cylchgrawn, ’dyn ni’n clywed am daith Nick ac Alison Smart i Batagonia, ac ymweliad Nagako Moriya o Siapan â Chymru.
Mae Rhian Cadwaladr hefyd wedi bod yn crwydro – i Norwy y tro yma, ac mae Francesca Sciarrillo yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau ei blwyddyn hi.
Fel dach chi’n disgwyl yr adeg yma o’r flwyddyn, mae llawer o gyfresi a ffilmiau ar y teledu. Mae Mark Pers wedi bod yn adolygu’r ffilm Effi o Blaenau sydd ar S4C dros y Nadolig. Mae Mark yn dweud, os dach chi’n gwylio dim ond un ffilm dros y cyfnod yma, gwnewch yn siŵr mai Effi o Blaenau ydy hi.
Beth bynnag fyddwch chi’n wneud, Nadolig Llawen iawn i chi i gyd a Blwyddyn Newydd Dda pan ddaw o!